Nehodí sa? Žiadny problém! U nás môžete do 30 dní vrátiť
S darčekovým poukazom nešliapnete vedľa. Obdarovaný si za darčekový poukaz môže vybrať čokoľvek z našej ponuky.
Dyma nofel fechan swynol a dirdynnol sy'n werth ei darllen o hyd. At hynny, mae'n rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio'r modd y mae Moelona yn cyfathrebu a'i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau'r ugeinfed ganrif. Efallai fod Teulu Bach Nantoer yn ymddangos yn stori syml, ond y mae wedi ei llwytho a gobeithion a phryderon Cymry'r cyfnod am eu hiaith, eu cymuned a'u diwylliant.Ydy, mae hon yn nofel ddiniwed sy'n perthyn i gyfnod a fu - ac mae hynny'n rheswm dros ei darllen yn hytrach na'i hanwybyddu. Gyda'r fersiwn hwn, dathlwn un o drysorau llenyddiaeth plant y Gymraeg a rhoi'r cyfle i Teulu Bach Nantoer adael ei hargraff ar lechen ddigidol ein hoes ni.