Doesn't suit? No problem! You can return within 30 days
You won't go wrong with a gift voucher. The gift recipient can choose anything from our offer.
Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn. Mae'n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a ddenwyd allan o'u hogofau gan Granogwen, golygydd y Frythones (1879-89), a'r rhai a ddaeth ar eu hol yn yr ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae'n lyfr delfrydol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.