Doesn't suit? No problem! You can return within 30 days
You won't go wrong with a gift voucher. The gift recipient can choose anything from our offer.
Dyma gyfrol sydd yn ymdrin a mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a'r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Gan dynnu ar ymchwil empeiraidd gyda myfyrwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, mae'r awdur yn herio rhagdybiaethau damcaniaethol am berthynas mewnfudwyr a'r Gymraeg. Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i'r amlwg wrth I Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisiau'r Wladwriaeth Brydeinig yn hybu polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog. Wedi trafod y sefyllfa yn Quebec ac archwilio'r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a sifig, awgryma Gwennan Higham ei bod yn ddyletswydd arnom i ddiffinio a sefydlu dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg.